Grŵp Datblygu Ysgol Trefeurig
Jane Guest – Cadeirydd
Ann Jeremiah - Ysgrifennydd
Dave Taylor – Trysorydd
Cafodd y CCB eu cynnal ar 26ain Mai. Roed y swyddogion yn gytunedig i sefyll am flwyddyn eto, i weld y prosiect trwyddo. Cytunodd pawb fod y chwe mis diwethaf wedi bod yn bositif iawn, fy llwyddiannus i ymestyn sawl pobol gyda phresenoldeb da i’r gweithgareddau llwyddiannus. Diolchwyd y pwyllgor gan yr aelodau presennol am eu gwaith caled i sicrhau'r yswiriant a phrydlesu'r ysgol i’r gymuned.
Cytunodd Ruth Davies aros ymlaen fel gofalwr ag i gymerid bwciad o’r ysgol.
Y Gwefan
Gobeithiwn fydd y gwefan hwn yn cadw pawb yn wybodus am y prosiect i ddatblygu'r ysgol fel canolfan cymuned i Drefeurig. Rydym hefyd yn bwriadu darparu gwybodaeth ar ddigwyddiadau a gweithgareddau yn yr ysgol ar amgylchoedd lleol, falle fydd yn ddoniol a gwerthfawr i'r gymuned leol. Gobeithiwn fe welwch chi bethau yma i galonogi chi i gymryd rhan a falle trefnu digwyddiadau/gweithgareddau eich hun.
Pan oedd y’r ysgol ar agor roedd yn pwynt ffocal a thynnodd llawer ohonom at ein gilydd, fy helpu i greu'r ysbryd cymunedol gwerthfawr sydd yn Nhrefeurig. Gobeithio bydd darpariad yr hen ysgol fel canolfan cymuned, fydd y cylchlythyr ar wefan hwn yn helpu cadw, a falle gwella'r ysbryd cymunedol sydd mor werthfawr i gymaint ohonom.
I helpu cadw chi yn wybodus fyddwn yn hela e-bost i pawb pob tro fydd rywbeth newydd werthfawr yn cael eu gosod ar y wefan. Os hoffwch fod ar y rhestr helwch e-bost i ni ar
Trefor.Davies@aber.ac.uk
Hanes y prosiect
Y FLWYDDYN NEWYDD YN DOD Â
GWEITHGAREDDAU NEWYDD I BENTREFI GWLEDIG TREFEURIG!
Diolch i grant gan gronfa Risg Gymdeithasol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), bydd trigolion pentrefi gwledig plwyf Trefeurig yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, o ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddrymio!
Wedi’u lleoli yn adeilad Ysgol Trefeurig, a gaeodd yn ddiweddar, bydd amrywiaeth o gyrsiau blasu, gan gynnwys ‘Extend’ ar gyfer trigolion hŷn, cerdded Nordig er mwyn cael gwared â rhai o’r minspeis yna a gwersi dawnsio ar gyfer dilynwyr ‘Strictly Come Dancing’ yn cael eu trefnu, yn ogystal â drymio, TG i ddechreuwyr a defnyddio’r rhyngrwyd.
Dywedodd Ruth Davies, Cydlynydd y Prosiect:
“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i’r WCVA am y grant o £10,000 sy’n caniatáu inni gynnig y cyrsiau blasu hyn yn rhad ac am ddim i aelodau’n cymuned. Fel nifer o gymunedau gwledig eraill, ry’n ni wedi colli nifer o wasanaethau yn ddiweddar a fu gennym yn y gorffennol. Mae ein trigolion hŷn ac iau, nifer ohonynt heb gludiant eu hunain, wedi’u bwrw’n arbennig o galed oherwydd inni golli ein gwasanaeth bws rheolaidd, felly roeddem yn awyddus i roi cynnig ar gynnal digwyddiadau newydd yng nghalon y pentrefi gwledig.
Os cawn ni ymateb positif gan y trigolion i’r sesiynau blasu, ry’n ni’n gobeithio medru parhau gyda’r cyrsiau a’r digwyddiadau a’u gwneud yn rhan o’n calendr cymdeithasol presennol.”
Gwnaeth Grŵp Datblygu Ysgol Trefeurig gais am yr arian fel rhan o astudiaeth dichonolrwydd i asesu a ellir cynnal adeilad Ysgol Trefeurig yn economaidd fel canolfan gymunedol.